Min y Traeth

Ym Min y Traeth ceir llety o safon ar gyfer gwyliau teuluol mewn safle tawel ganllath o’r traeth yng Nghricieth.

Mae’n cynnwys y canlynol;

  • Ystafell olchi gyda pheiriant golchi dillad, peiriant golchi llestri a rhewgell.
  • Cegin;
  • Lolfa gysurus gyda theledu a chwaraewr DVD;
  • Ystafell fwyta gyda golygfa o’r môr;
  • Toiled ar y llawr isaf;

Ar y llawr cyntaf mae:

  • Prif ystafell ymolchi;
  • Ystafell wely dwbl gydag ystafell gawod en suite;
  • Ystafell wely gyda dau wely sengl;
  • Ystafell wely arall gyda dau wely sengl.
  • O’r llawr cyntaf gellir gweld y Castell Canoloesol.

Yn y gegin ceir popty dwbl trydan, hob nwy, oergell, microdon, tecell trydan, tostiwr, cafetiere, sosbenni da a llestri Portmeirion.

Y tu allan mae safle eistedd a dodrefn gardd ac er ein bod yn croesawu cŵn nid yw’r ardd yn gaeedig.

Mae gwres canolog yma , darperir tywelion a bydd y gwelyau yn barod ar gyfer ein hymwelwyr.

Holiday Cottages in Snowdonia - cliciwch yma